Datganiadau i'r Wasg – cyfarwyddyd

Datganiadau i'r Wasg – cyfarwyddyd

Photo copyright Autumn Barlow/The Wildlife Trusts 2023

Awgrymiadau sylfaenol ar sut i ysgrifennu datganiad i'r wasg.

Sut mae’n edrych:

Ysgrifennwch eich datganiad i'r wasg mewn dogfen (gan sicrhau eich bod yn ei chadw yn eich ffolderi mewn ffordd drefnus, gyda'r dyddiad yn enw'r ffeil er enghraifft). Defnyddiwch ffont clir fel Times New Roman 12 pwynt, bylchau 1.5 rhwng llinellau, a’i LUDO I MEWN I'R E-BOST – nid yw pobl yn debygol o agor atodiadau a gall hyd yn oed gael ei ddal a'i ddiystyru gan hidlyddion sbam.

Peidiwch ag anghofio ychwanegu ychydig o gyflwyniad ar dop yr e-bost cyn i'r datganiad i'r wasg gael ei ludo i mewn. Byddwch yn bersonol – chwiliwch am enw'r cyswllt, ac ychwanegu brawddeg neu ddwy ynghylch pam mae'r stori yma mor bwysig, yn deilwng o newyddion ac yn amserol.

Pennawd clir, bachog – po fwyaf fel erthygl newyddion y gallwch ei ysgrifennu, y mwyaf tebygol ydyw y byddant yn ei ddefnyddio, felly gall fod yn werth ei deilwra i bobl benodol os oes gennych chi amser. Rhowch eich neges allweddol yn y frawddeg gyntaf, heb atalnodau os yw hynny’n bosibl.

Y stori sy’n dod gyntaf. Rhowch fanylion, ystadegau, cyllidwyr ac ati ar y diwedd. Osgowch jargon, acronymau a gormod o fanylion hefyd. Mae angen i chi eu dal nhw’n emosiynol i ddechrau.

Gwnewch yn siŵr bod manylion cyswllt ar gyfer rhywun fydd yn gallu ateb cwestiynau dilynol, gan gynnwys ffonau symudol neu rifau cyswllt y tu allan i oriau.

Cysylltwch y cynnwys ag unrhyw luniau, a dylech roi capsiynau clir ar eu cyfer, cydnabod perchennog y lluniau, a'u clirio at ddefnydd y cyfryngau. Ni allaf bwysleisio digon pa mor falch yw golygyddion os yw'r stori’n cyrraedd gyda llun o ansawdd uchel. Byddant yn dewis eich stori yn lle un arall sydd yr un mor dda ond heb lun.

Peidiwch â bod ofn pwyntiau bwled. Gallant gyfleu eich negeseuon allweddol yn effeithiol iawn.

Os yw eich prosiect neu ddigwyddiad wedi cael cyllid, peidiwch ag anghofio sôn am y cyllidwyr neu’r noddwyr hynny! Gallai hyd yn oed fod yn amod ar y cyllid.

Beth mae’n ei ddweud:

Sut mae hyn yn newyddion? Beth sy'n unigryw am y stori hon rydych chi'n ei hadrodd, a pham nawr? Ystyriwch:

  • Ai dyma'r cyntaf, y mwyaf, y gorau, y mwyaf unigryw?
  • A yw'n ysgytwol, yn gyffrous, yn ddadlennol neu ddim ond yn rhyfedd iawn?

Os na allwch benderfynu beth sy'n gwneud i hon fod yn unigryw fel stori newyddion, efallai y byddai'n well ei chynnig fel erthygl / stori nodwedd, sy'n tueddu i beidio â bod mor allweddol o ran amser (ond byddwch yn ymwybodol bod straeon nodwedd yn aml yn cynnwys cyfnodau arwain i mewn o fisoedd lawer, ac mae rhai cyfyngiadau amser - bydd cylchgronau fel arfer yn canolbwyntio ar ddyddiadau / tymhorau calendr).

Ceisiwch gael dyfyniadau byr, bachog gan bobl allweddol ond peidiwch a dim ond ailadrodd yr hyn sydd wedi’i ddweud yng ngweddill y datganiad.

Beth i’w wneud:

EI BRAWFDDARLLEN! A chael rhywun arall i'w wirio, hefyd. Nid yw hyn yn ymwneud â sillafu yn unig - mae gramadeg ac atalnodi perffaith yn hanfodol hefyd. Cofiwch y confensiynau yma:

  • Cadw paragraffau'n fyr.
  • Ceisio osgoi hanner colon – rhannwch eich brawddegau yn frawddegau llai yn lle hynny.
  • Y confensiwn ar gyfer ychwanegu dyfyniad yw defnyddio eu henw, eu teitl, ac wedyn colon ac agor nodau lleferydd, a defnyddio'r amser presennol.

Dywed Bobi Esiampl, y Cyfarwyddwr Esiamplau: “Yn bersonol, rydw i’n meddwl bod hon yn esiampl wych.”

Cynlluniwch ymlaen! Gallwch chi osod embargo ar ddatganiad i'r wasg os ydych chi'n torri stori ar ddiwrnod penodol. Nodwch yn glir ar dop e-bost y datganiad i'r wasg os yw hyn yn wir. Gallech chi nodi’r canlynol:

Embargo: ddim i’w gyhoeddi na’i ddarlledu cyn 00.01 dydd Llun 25 Gorffennaf 2022

Fel arall, gallwch chi roi:

I'w ryddhau ar unwaith.

Ble i’w anfon:

E-bostiwch y datganiad at berson wedi’i enwi. Gallwch ddod o hyd i'r person priodol drwy edrych yn y papur newydd ar y rhestr o bobl, chwilio ar eu gwefan neu LinkedIn, neu ffonio'r papur a gofyn pwy yw'r person gorau.

A dilyn i fyny gyda galwad ffôn neu e-bost wythnos yn ddiweddarach, os nad ydych chi wedi clywed unrhyw beth, a dim ond yn cynnig “mwy o wybodaeth” - yn aml, dim ond hwb sydd arnyn nhw ei angen i fynd â'r stori ymhellach!

Nextdoor nature - Swansea Nextdoor nature - Swansea

 The Wildlife Trusts 

Have you been part of a community nature project?

We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods. 

Share your story

 

 

CC by 4.0 attribution

CC by 4.0 attribution

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.

 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40